Croeso i Ysgol Sadwrn!

Neges gan y Sylfaenydd
Daeth y syniad o greu cyfleoedd i blant sy’n byw y tu hwnt i Gymru ddysgu Cymraeg o’m profiad personol. Fel mam o Lanrhystud, Ceredigion, roeddwn i’n awyddus i’m mab barhau â’i addysg Gymraeg pan symudon ni i Lundain. Trwy’r weledigaeth hon, sefydlais Ysgol Sadwrn fel ffordd o gynnig dosbarthiadau Cymraeg ar-lein, a hefyd i fod yn hwylusydd i blant gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y byd addysg, gan gynnwys fel prifathrawes a darlithydd prifysgol, mae gen i’r wybodaeth a’r angerdd i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo’n hyderus ac yn hapus wrth ddysgu Cymraeg. Erbyn heddiw, rydym yn hynod falch o fod wedi croesawu plant o bum cyfandir i’n gwersi, gan feithrin cymuned wirioneddol ryngwladol.
Sioned Rees-Jones
Pennaeth
Newyddion Diweddaraf
Ar ras i gyrraedd pob congl o’r Byd: Tair blynedd o Ysgol Sadwrn
Ym Mehefin 2023, dechreuodd Ysgol Sadwrn gyda diben syml: darparu man neilltuol i…
Fuoch chi ’rioed yn morio?
Yn Ysgol Sadwrn, rydyn ni’n grediniol bod dysgu Cymraeg yn daith sy’n llawn…
Y Gymraeg yn Cael Ei Chydnabod mewn Ysgol Uwchradd yn Texas
Weithiau mae pethau annisgwyl yn digwydd mewn addysg – yn yr achos hwn…


