Helo bawb! Mae’n Ddydd Gŵyl Dewi fory, ac mae’n amser gwych i ddathlu Cymru a’n traddodiadau. Un ffordd flasus o baratoi yw creu eich pice bach neu pice ar y maen (welshcakes).
Ewch ati!
Rysait – Pice ar y Maen
Cynhwysion
- 225g o flawd codi
- Pinsaid o halen
- Pinsaid o bowdr sweisys cymysg
- 110g o fenyn
- 75g o siwgr mân
- 75g o gyrens/sultanas/raisins
- 1 wy wedi ei guro
- Sblash o laeth
Dull
- Casglwch y cynhwysion a’r offer sydd angen.
- Yn gyntaf cribiwch y blawd, halen a sbeis i mewn i bowlen gymysgu.
- Yn nesaf, mae angen adio siwgr, gyrens, raisins a sultanas.
- Yn ail, ychwanegwch y menyn. Rhwbio’r gymysgedd gyda’i gilydd yn defnyddio eich dwylo, i greu brwsion bara.
- Ar ol hynny, tywalltwch yr wy wedi ei curo i mewn.
- Rholio’r toes a torrwch allan cylchoedd.
- Pobi’r cacennau cymreig ar y dwy ochr.
- Ar ol iddynt cael ei goginio, rhannwch, bwyta a mwynhewch!
