‘‘Mai sy’n llenwi’r coed â dail.’’

Helo bawb!

‘‘Mai sy’n llenwi’r coed â dail.’’

Mae mis Mai wedi cyrraedd, hoff fis Crwydryn – mae’n mwynhau’r mynyddoedd gwyrdd, y dyddiau hir, blodau’n ymddangos yn y cloddiau, a sŵn adar bach yn canu. Ond yna, mae e’n cofio rhywbeth pwysig iawn…

Nid yw pawb yn Ysgol Sadwrn yn profi mis Mai yn yr un ffordd!

Mae dysgwyr Ysgol Sadwrn yn byw ledled y byd. Mae rhai’n byw yn y DU, tra bod eraill lawer ymhellach i ffwrdd. Mae hynny’n golygu tra bod un plentyn yn mwynhau dyddiau cynhesach, efallai bod plentyn arall ynghanol gaeaf, ac un arall yn byw yn rhywle lle nad oes tymhorau o gwbl.

A dyna un o’r pethau sy’n gwneud Ysgol Sadwrn mor arbennig.

Er ein bod ni mewn gwahanol rannau o’r byd, mae yna un peth sy’n ein cysylltu ni gyd: ein hiaith.

Y mis hwn, mae Crwydryn eisiau clywed gennych chi!

  • Sut mae mis Mai yn edrych ble rwyt ti’n byw?
  • A oes blodau’n tyfu ar y cloddiau, neu ydy’r tywydd yn oer ac yn wlyb, oes gen ti eira?
  • Beth yw hoff beth am fis Mai?

Pa un ai wyt ti’n gwisgo cot neu grys-T heddiw, mae Crwydryn yn gobeithio y cei di fis Mai arbennig iawn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *