Diwrnod Shwmae Su’mae – Rho Gynnig arni gyda’r Gymraeg!

Mae 15 Hydref yn Ddiwrnod Shwmae Su’mae, diwrnod i ddathlu’r Gymraeg ac, yn bwysicaf fyth, i roi cynnig ar ddefnyddio’r Gymraeg!

Ond beth yn union yw Shwmae Su’mae?

Yn syml iawn, mae “Shwmae?” a “Su’mae?” yn ffyrdd anffurfiol o ddechrau sgwrs yn Gymraeg. Defnyddir Shwmae gan fwyaf yn y de a Su’mae yn y gogledd.

Y nod yw: dechrau sgwrs yn Gymraeg.

Does dim rhaid i ti fod yn rhugl. Does dim angen i ti wybod llawer o eiriau. Ac yn sicr, does dim rhaid poeni am gael popeth yn berffaith.

Rho gynnig arni!

Mae’r Gymraeg i bawb!

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn gyfle i bawb ym mhobman, ddathlu’r Gymraeg – boed yn y cartref gyda’th deulu, yn dysgu Cymraeg yma yn Ysgol Sadwrn gyda ni, neu ddefnyddio ambell i air sy gen ti eisoes.

Ble bynnag wyt ti yn y Byd, beth am ddweud “Shwmae!” wrth ffrind neu athro yn yr ysgol, ateb cwestiwn yn Gymraeg, neu ddysgu gair Cymraeg newydd i rywun i’w helpu dod i adnabod y Gymraeg. Does dim rhaid i ti fyw yng Nghymru i ddathlu’r Gymraeg. Mae’r Gymraeg i bawb sy’n ei defnyddio, ei dysgu ac yn ei mwynhau.

Her fach ar gyfer 15 Hydref

Dyma her gan Ysgol Sadwrn:

Wyt ti’n gallu dechrau tair sgwrs yn Gymraeg ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae?

Gallai fod yn:

  • Dweud “Bore da!” wrth riant yn y bore a chael sgwrs fach yn Gymraeg dros frecwast.
  • Dweud “Shwmae?” wrth ffrind yn yr ysgol a dysgu ychydig o eiriau Cymraeg iddyn nhw.
  • Anfon neges destun yn Gymraeg at aelod o’r teulu.
  • Darllen stori Gymraeg i frawd neu chwaer, taid neu nain, neu aelod arall o’r teulu.
  • Defnyddio un gair neu ymadrodd Cymraeg newydd yn ystod y dydd.

A chofia – does dim ots os wyt ti’n gwneud camgymeriad. Mae pob sgwrs yn gyfle arall i ymarfer, dysgu a magu hyder. Felly, ble bynnag yn y byd yr wyt ti, beth am ymuno â ni ar 15 Hydref?

Shwmae! Su’mae! Rho gynnig arni! shwmae.cymru

Hoffet ti roi cynnig ar wers Gymraeg 1-i-1 am ddim gydag Ysgol Sadwrn? COFRESTRU YMA