Antur Crwydryn i Warrington!

Mae Crwydryn wedi bod ar antur gyffrous arall— a’r tro hwn, teithiodd i Warrington yng ngogledd-orllewin Lloegr!

Er bod Warrington dros y ffin o Gymru, fe ddarganfu Crwydryn yn fuan fod yr iaith Gymraeg a’r diwylliant yn fyw ac yn iach yno. Roedd wrth ei fodd yn cwrdd â theulu o Ysgol Sadwrn ac yn cael gwybod sut brofiad yw bod yn siaradwr Cymraeg sy’n byw yn Lloegr. Fe wnaeth e fwynhau treulio amser gyda nhw, clywed y Gymraeg yn cael ei siarad, a dysgu am y gwahanol ffyrdd mae’r teulu’n cadw eu cysylltiad cryf â Chymru.

Wrth gwrs, fyddai dim un antur gan Crwydryn yn gyflawn heb ychydig o hwyl! Fe wnaeth e fwynhau teithio o gwmpas Warrington, mynd â’r ci am dro, tynnu lluniau ar gyfer ei albwm teithio, ac ychwanegu atgof arbennig arall i’w basbort.

Lle fydd Crwydryn yn teithio nesaf? Mae ei basbort yn llenwi, mae ‘na ddigon o anturiaethau yn aros amdano…

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *