Ar ras i gyrraedd pob congl o’r Byd: Tair blynedd o Ysgol Sadwrn

Ym Mehefin 2023, dechreuodd Ysgol Sadwrn gyda diben syml: darparu man neilltuol i blant sy’n byw y tu allan i Gymru i ddysgu, mwynhau, a chadw cyswllt â’r iaith Gymraeg. Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’r syniad cychwynnol hwnnw wedi troi’n gymuned fywiog ar-lein. Heddiw, mae Ysgol Sadwrn yn cysylltu dysgwyr ifanc o nifer fawr o wledydd i rannu chwilfrydedd am yr iaith ac, yn aml, i gefnogi’r cysylltiad personol dwfn sydd ganddynt â Chymru.

I nifer o’n teuluoedd, mae dysgu Cymraeg yn rhan o stori ehangach. Efallai bod gan blentyn rhiant sy’n siarad Cymraeg, neu neiniau a theidiau sy’n byw yng Nghymru, neu wreiddiau teuluol sy’n mynd yn ôl cenedlaethau. Mae dysgu iaith yn ymwneud â llawer mwy na chofio geirfa a rheolau gramadegol. Gall un gair agor drws, gall stori oleuo’r dirwedd, a gall ymadrodd bontio’r gagendor ddaearyddol. Yn Ysgol Sadwrn, mae dysgu iaith yn cyd-redeg â darganfod ein diwylliant drwy ein pobl, ein hanes, ein traddodiadau, a digwyddiadau eiconig sy’n rhoi cyd-destun cyfoethog i’r iaith.

Mae ein cwricwlwm craidd wedi’i lunio o gwmpas unedau chwe-gwers yr un sy’n helpu plant i archwilio gwahanol agweddau ar fywyd, etifeddiaeth, a hanes Cymru. Er enghraifft mae ein huned newydd nesaf, Cyflymder yn canfod digwyddiadau anhygoel yn hanes Cymru, fel pan osododd John Parry-Thomas record cyflymder ar Draeth Pentywyn yn 1926 wrth yrru ei gar enwog, Babs. Drwy wau hanes gwirioneddol Gymreig, lleoedd, a chwedlau i mewn i’n dysgu, mae gwersi’n dod yn daith gyffrous i ddiwylliant Cymru yn hytrach na dim ond yn ddosbarth iaith.

Mae llwybr pob dysgwr yn unigryw, a dyna pam bod ein cynnig wedi ehangu i gynnal oedrannau, arddulliau dysgu, a nodau gwahanol. Ar gyfer ein dysgwyr bach ifanc rhwng 4 a 6 oed, rydym yn cynnig sesiynau rhyngweithiol byrrach o 30 munud gan ddefnyddio hwiangerddi, caneuon a straeon i gyflwyno Cymraeg trwy rythm, chwarae, ac ailadrodd. Mae disgyblion hŷn wedi ymuno â’n Clybau Sgwennu a Chlybiau Darllen, sef clybiau neilltuol lle gall ddysgwyr datblygu eu sgiliau’n greadigol ac adeiladu hyder llythrennedd. Rydym hefyd yn cynnig tiwtoriaeth 1:1 wedi’i bersonoli’n benodol i allu ac anghenion plentyn, boed yn ddechreuwr llwyr neu’n siaradwr rhugl sydd eisiau mireinio ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig darpariaeth hyblyg sy’n gweddu amserlenni teuluol. Erbyn hyn, rydyn ni hefyd yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â theuluoedd sy’n addysgu gartref yng Nghymru drwy eu hawdurdodau lleol.

Os ydych chi’n chwilio am gymorth unigol, teuluol neu grŵp cymunedol lleol gallwn gynllunio cwrs yn arbennig i chi.

Gallwch archwilio ein harlwy ar ein gwefan ysgolsadwrn.cymru ac yn siop SumUp Ysgol Sadwrn. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch, cysylltwch â ni drwy e-bost i drafod: sioned.rees-jones@ysgolsadwrn.cymru.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *