Mae gan Ysgol Sadwrn fasgot newydd eleni – ac mae ganddo’r enw perffaith: Crwydryn!
Cafodd Crwydryn ei greu gan Seren o Gaerloyw. Mae Seren wedi bod yn ddisgybl ffyddlon yn Ysgol Sadwrn ers amser, ac mae hi a’i brawd Ioan yn mynychu’r ysgol bob wythnos yn ffyddlon. Mae Seren wrth ei bodd yn arlunio a dylunio, ac felly pan ddaeth y cyfle i gynnig dyluniad ar gyfer masgot newydd yr ysgol, roedd hi’n byrlymu gyda syniadau gwreiddiol.
“Fe ddewisais y lliwiau coch, gwyn a gwyrdd oherwydd mai dyma liwiau baner Cymru,” eglurodd Seren.
Ond nid lliwiau Cymru sy’n unigryw i Crwydryn: mae ganddo geg fawr i allu siarad Cymraeg yn glir ac eglur, llygaid mawr i weld pawb sy’n dysgu’r iaith ar draws y byd, a choesau cryfion i deithio a chwrdd â phob un ohonyn nhw!
“Dwi’n edrych ymlaen i weld ble mae Crwydryn yn mynd ac â phwy y bydd o’n cwrdd wrth deithio o amgylch y byd!” ychwanegodd Seren.
Cychwynnodd Crwydryn ei daith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam – roedd cymaint i’w weld a’i wneud yno fel nad oedd yn gwybod ble i ddechrau!
Roedd wedi mwynhau darllen hoff eiriau pawb. Dewisodd rhai eiriau hwyliog fel pendwmpian, tra bod un plentyn pedair oed balch yn ysgrifennu’r gair mam yn ofalus. Roedd pob gair yn dangos eu cysylltiad personol â’r iaith. Yn y llun mae dau o ddysgwyr Ysgol Sadwrn, Gethin a Carys yn cwrdd â Crwydryn am y tro cyntaf.
Beth yw dy hoff air Cymraeg tybed?
