Cwrs Ysgrifennu Creadigol, Clwstwr Llanfyllin, Powys
Dros chwe wythnos gyffrous, fe wnaethom ni – grŵp o ddysgwyr brwdfrydig – fwynhau’r Cwrs Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad Sioned Erin Hughes a Nia Wyn Jones. Roedd y daith yn llawn hwyl, heriau, a darganfyddiadau creadigol. O ddatblygu cymeriadau i greu troeon trwstan yn ein straeon, bu’r profiad yn un bythgofiadwy.
Roedd pob sesiwn wedi’i chynllunio i feithrin sgiliau ysgrifennu trwy weithgareddau amrywiol ac ymarferion hwyliog. Fel y dywedodd E:
“Roedd yr athrawon yn garedig iawn ac roedden nhw’n cynnal tasgau hwyliog oedd yn helpu ni i ysgrifennu ein straeon.”
Un o’r tasgau mwyaf poblogaidd oedd llunio cymeriadau. O’u hoff fwyd i’w hoff weithgareddau, fe wnaethom archwilio pob manylyn. Fel y dywedodd H:
“Fy hoff wers oedd creu eich cymeriad – roeddech chi’n gallu disgrifio e, doedd dim ots beth oedd e!”
Roedd hyn yn rhoi’r rhyddid i ni greu cymeriadau bywiog a diddorol.
Er bod y cwrs yn hwyl, roedd hefyd yn cynnwys heriau. Roedd rhaid i bawb ysgrifennu stori lawn erbyn diwedd y chwe wythnos. Fel y dywedodd Rh:
“Roedd o’n bach yn heriol meddwl am y cymeriad i gychwyn, ond unwaith roeddwn i wedi cynhesu efo’r gwaith, roedd yn haws.”
Roedd yn gyfle gwych i ddefnyddio geirfa gyfoethog ac ehangu ein sgiliau creadigol.
Uchafbwynt arbennig i bawb oedd cyfarfod ag awduron profiadol. Fel y dywedodd H:
“Roedd hi’n brofiad a hanner ac roeddwn ni wedi cael hwyl yn cael cwrdd ag awduron campus!”
Roedd eu hadborth yn werthfawr wrth i ni fireinio ein straeon.
Un o’r adegau mwyaf cyffrous oedd darllen ein straeon i Esyllt Maelor. Fel y nododd E:
“Roeddwn i’n mwynhau gweld nhw’n gwenu yn y darnau doniol ac yn ymateb trwy ofyn cwestiynau.”
Roedd hyn yn cryfhau ein hyder ac yn ein helpu i weld effaith ein gwaith ar eraill.
Mae’r daith ysgrifennu yn parhau! Mae llawer ohonom bellach wedi’n hysbrydoli i barhau i ysgrifennu. Mae S yn edrych ymlaen at ysgrifennu “Benjamin a’i ben igam-ogam,” tra bod E eisiau ysgrifennu stori ar gyfer plant iau.
