Cystadleuaeth Masgot Ysgol Sadwrn – Dyma Dy Gyfle i Greu Hanes!

Wyt ti’n hoffi dylunio creaduriaid dychmygus? Mae gennym ni her gyffrous i ti! Dyma dy gyfle i greu masgot unigryw ar gyfer Ysgol Sadwrn. Ond cofia – dim dreigiau!

Rydym yn chwilio am greadur neu gymeriad gwreiddiol, un sy’n hawdd ei adnabod ac yn llawn personoliaeth. Bydd y dyluniad buddugol yn cael ei drosi’n byped go iawn a’i ddefnyddio fel cynrychiolydd Ysgol Sadwrn ar draws y byd! Bydd y masgot arbennig hwn yn teithio i gwrdd â dysgwyr Ysgol Sadwrn o bob cwr o’r byd, gan ddod yn wyneb adnabyddus i’n cymuned fyd-eang.

Beth rydym yn chwilio amdano?

  • Creadur neu gymeriad gwreiddiol
  • Dyluniad sy’n unigryw, yn drawiadol ac yn hawdd ei adnabod
  • Cymeriad llawn personoliaeth
  • Gwaith dylunio cywrain a chreadigol

Sut i gymryd rhan?

Anfon dy ddyluniad atom ni erbyn 21 Mawrth 2025. Paid â cholli’r cyfle i weld dy greadur yn dod yn fyw ac yn teithio’r byd!

Mae hon yn gyfle arbennig i arddangos dy dalentau creadigol a bod yn rhan o hanes Ysgol Sadwrn.

Pob lwc!