Dathlu Cymru a Dathlu Ti a Fi

Helo bawb! Yn ein huned “Dathlu”, rydym wedi bod yn dathlu’r rheiny sydd wedi ein hysbrydoli yn y byd chwaraeon a cherddoriaeth yng Nghymru. Buom yn edrych ar gyflawniadau Josh Tarling, Jess Fishlock, Gareth Bale, Elfyn Evans, Syr Gareth Edwards, Ian Woosnam, Gerwyn Price, Colin Jackson, a’r Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Buom hefyd yn gwrando ar gerddoriaeth o Gymru. Cawsom gystadleuaeth Cân i Gymru arbennig ar gyfer Ysgol Sadwrn, ac roedd y plant yn feirniaid penigamp. Roeddent yn sgorio pob cân yn unigol yn erbyn pa mor dda oeddent yn ei hoffi, pa mor hawdd oedd ei chofio neu i gyd-ganu’r geiriau, ac yn ôl perfformiad y canwr neu’r band. Yr artistiaid oedd yn cystadlu oedd Tara Bandito yn canu Rhyl, Gwilym gyda Fyny ac yn ôl, Yws Gwynedd – Sebona fi, Bwncath yn canu Barti Ddu, a’r enwog Eden – Paid â bod Ofn.

Bu’r plant yn dysgu hefyd am brif ddathliadau traddodiadol Cymru – canu calennig ar Ddydd Calan, yr Hen Galan ar 13 Ionawr gyda’r Fari Lwyd, Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr, a’r traddodiadau ar 24 a 25 Rhagfyr o wneud Cyflaith a chanu Plygain.

I orffen, fe wnaethom ddathlu llwyddiannau a diddordebau ni ein hunain a’n ffrindiau yn Ysgol Sadwrn, ein hiaith Gymraeg, a phopeth sy’n gwneud ni’n Gymry gwych.