Yn flynyddol ar 16 Medi, mae Cymru yn dathlu Dydd Owain Glyndŵr, diwrnod i gofio un o ddynion mwyaf dylanwadol ein gwlad. Mae Glyndŵr yn enwog am arwain gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Lloegr ac am freuddwydio am Gymru annibynnol.
Mae Sycharth, ei gartref hanesyddol, yn le hudolus i ymweld ag ef. Amser maith yn ôl, roedd yn ystâd hunangynhaliol. Roedd yn lle llawn bwrlwm ac ymwelwyr, a phobl leol yn mynd a dod. Mae cerdded o amgylch Sycharth heddiw yn ein helpu i ddychmygu sut oedd bywyd yn ystod amser Glyndŵr ac i werthfawrogi’r etifeddiaeth a adawodd i ni fel Cymru.
Yng ngwersi Ysgol Sadwrn, bu’r plantos yn dysgu am gyflawniadau Owain Glyndŵr mewn ffyrdd creadigol. Dysgon nhw am ei Senedd-dŷ ym Machynlleth a’i gymharu gyda’r Senedd fodern yng Nghaerdydd, gan weld sut mae gweledigaeth Glyndŵr am senedd Gymreig yn parhau i ysbrydoli pobl heddiw. Adeiladodd nifer ohonynt gestyll yn Minecraft (Cymraeg), gan ddysgu bod Castell Harlech unwaith wedi gwasanaethu fel “swyddfa” i Glyndŵr yn ystod ei ymgyrchoedd.
Mae Dydd Owain Glyndŵr yn gyfle i ystyried ei ddewrder ac uchelgais. Mae’n annog dysgwyr ifanc i archwilio’r gorffennol, ac yn ysbrydoli pawb i feddwl am y breuddwydion a all newid cenedl. Fedri di greu darlun o Sycharth yn dy feddwl? Mae cerdd Iolo Goch yn creu darlun clir o’r lle. Dyma’r gerdd wedi’i symleiddio:
Llys Owain Glyndŵr (Sycharth) – Iolo Goch
Mae’n le prydferth.
Mae dŵr glan o amgylch y llys.
Pont i groesi’r dŵr.
Un prif giât lle mae pobl yn mynd i mewn.
Mae’r adeiladau i gyd wedi’u cysylltu.
Pren cryf yn dal y to.
Mae yna dŵr cloch.
Ystafelloedd tawel fel bod mewn eglwys.
Mae pob rhan yn daclus.
Popeth yn ffitio’n berffaith.
Mae yna naw neuadd fawr.
Naw cwpwrdd ymhob neuadd yn llawn o bethau hardd, fel siopau Llundain.
Mae capeli gyda ffenestri lliwgar.
Ffwrn sy’n pobi bara trwy’r amser.
Mae afalau a gwinllan yn agos i’r llys.
Mae melin a dŵr, tŵr colomennod.
Pyllau pysgod gyda llawer o bysgod.
Caeau corn, cwningod, a cheirw yn pori.
Ceffylau cryf yn troi’r tir.
Mae’r adeiladau pren yn hardd.
Yn Sycharth, does dim angen allwedd a chlo, mae pawb yn ddiogel.
Am le braf i fyw!
