Fuoch chi ’rioed yn morio?

Yn Ysgol Sadwrn, rydyn ni’n grediniol bod dysgu Cymraeg yn daith sy’n llawn dychymyg, creadigrwydd a hwyl. Aeth ein huned ddiweddaraf yn y Lolfa Iaith, Teithio a Gwyliau, â’n dysgwyr ifanc (4 oed – 6 oed) ar anturiaethau cyffrous lle gallent archwilio llefydd newydd, rhannu syniadau a magu hyder wrth siarad Cymraeg.

Dros chwe gwers llawn hwyl, darganfu’r plant wahanol ffyrdd o deithio, o geir a chychod i awyrennau a rocedi. Ar longau môr-ladron i ddarganfod helfeydd trysor ar ynysoedd anghyfannedd. Roedden nhw’n ymarfer gofyn cwestiynau, creu brawddegau a rhannu eu syniadau ei hunain wrth gael llawer o hwyl.

Un o hoff anturiaethau’r plantos oedd teithio i’r gofod. I danio’r dychymyg, bu iddyn nhw archwilio planedau, gofodwyr a rocedi. Fel rhan o’r her greadigol hon, creodd dau o’n dysgwyr, Gethin o Loegr ac Alegría o Sbaen, eu rocedi ei hunain yn barod i’w lansio i’r gofod! Mae eu creadigaethau rhyfeddol yn dangos sut y gall dysgu Cymraeg ysbrydoli chwilfrydedd.

Er hynny, nid oeddynt yn awyddus iawn i hwylio i Ynys Manaw mewn padell ffrio! Pam tybed?