Rwy’n byw mewn tref hanesyddol hardd o’r enw Artà, sy di ei leoli yn nwyrain Mallorca. Mae’n lle llawn swyn a hanes, ac mae fy nghysylltiad â Chymru a’r iaith Gymraeg wedi gwneud fy mywyd yma’n fwy diddorol.
Rwy ym mlwyddyn 5, ac un o’r pethau rwy’n teimlo’n fwyaf cyffrous amdano yw dysgu Cymraeg. Penderfynais ymuno ag Ysgol Sadwrn ym mis Medi oherwydd bod gen i deulu yng Nghymru, ac mae fy nheulu i gyd yn ymddiddori yn yr iaith. Mae fy Mam yn dod o Fangor, ac rydyn ni’n ymweld â Chymru yn aml. Mae’n siarad â Nain a Taid yn Gymraeg wedi gwneud yr iaith hon yn fwy pwysig i mi. Gan fod Catalan yn iaith gyntaf i mi, rwy’n deall gwerth cadw ieithoedd lleiafrifol yn fyw. Mae Cymraeg yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth a diwylliant.
Yn Ysgol Sadwrn, rwy’n cael un wers bob dydd Sul. Rydyn ni’n gwneud llawer o weithgareddau, fel darllen, ysgrifennu, siarad, a chwarae gemau. Mae’n wych oherwydd mae’n helpu i adeiladu fy hyder yn defnyddio’r Gymraeg. Hefyd, rwyf wedi cwrdd â phlant o bob cwr o’r byd. Mae’n hwyl cysylltu â phlant sy’n siarad Cymraeg o bob cwr o’r byd.
Rwyf wedi bod yn lwcus iawn i ymweld â Chymru gyda’m chwaer o leiaf tair gwaith y flwyddyn. Rydyn ni’n treulio amser gyda Nain a Taid ym Mangor, ac rydyn ni hefyd yn ymweld â’m cyfnither Beti Nanw yng Nghaerdydd. Y peth gorau bob tro yw’r Eisteddfod ym mis Awst, lle gwelais sioe Na Nel y llynedd!
Un o fy arwyr Cymraeg yw Dorothea Bate, paleontolegydd o Gaerfyrddin. Fe ddarganfu ffosilau o’r Myotragus Balearicus, anifail a oedd yn byw ger y lle rwy’n byw! Mae hi’n ysbrydoliaeth wirioneddol, ac mae cerflun ohoni’n heb fod ymhell o Artà.
