Torcha dy lewys! Mae’n Ddydd Gŵyl Dewi fory!

Helo bawb! Mae’n Ddydd Gŵyl Dewi fory, ac mae’n amser gwych i ddathlu Cymru a’n traddodiadau. Un ffordd flasus o baratoi yw creu eich pice bach neu pice ar y maen (welshcakes).

Ewch ati!

Rysait – Pice ar y Maen

Cynhwysion

  • 225g o flawd codi
  • Pinsaid o halen
  • Pinsaid o bowdr sweisys cymysg
  • 110g o fenyn
  • 75g o siwgr mân
  • 75g o gyrens/sultanas/raisins
  • 1 wy wedi ei guro
  • Sblash o laeth

Dull

  1. Casglwch y cynhwysion a’r offer sydd angen.
  2. Yn gyntaf cribiwch y blawd, halen a sbeis i mewn i bowlen gymysgu.
  3. Yn nesaf, mae angen adio siwgr, gyrens, raisins a sultanas.
  4. Yn ail, ychwanegwch y menyn. Rhwbio’r gymysgedd gyda’i gilydd yn defnyddio eich dwylo, i greu brwsion bara.
  5. Ar ol hynny, tywalltwch yr wy wedi ei curo i mewn.
  6. Rholio’r toes a torrwch allan cylchoedd.
  7. Pobi’r cacennau cymreig ar y dwy ochr.
  8. Ar ol iddynt cael ei goginio, rhannwch, bwyta a mwynhewch!