Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb gan Ysgol Sadwrn! Mae Mawrth y 1af yn ddiwrnod arbennig yng Nghymru, ac eleni, mae ein hysgol wedi nodi’r dathliadau gyda brwdfrydedd a balchder.
Fe ddaru ni ddysgu am fywyd Dewi Sant, Nawddsant Cymru. Aethon ni a’n dysgwyr ar daith rithwyr i lefydd arbennig ledled Cymru, o Dŷ Ddewi ym Mhenfro i ardaeloedd eraill y credir iddo deithio. Fe ddaru ni ddysgu ei neges syml: “Gwnewch y pethau bychain,” i annog gwerthfawrogiad o’r gweithredoedd bach, ystyrlon yn ein bywydau beunyddiol.
Os yw Dydd Gŵyl Dewi wedi eich llenwi gyda hiraeth am Gymru a’r iaith Gymraeg, pam na ymunwch â’n cymuned ar-lein? Yn Ysgol Sadwrn, croesawn ddysgwyr o bob cwr o’r byd sydd eisiau cysylltu â’u hetifeddiaeth Gymraeg, gwella eu sgiliau iaith, a bod yn rhan o grŵp cefnogol a ysbrydoledig.Boed ichi fod yn dechrau eich taith gyda’r iaith Gymraeg neu’n chwilio i ddyfnhau eich gwybodaeth, rydym yn cynnig gwersi i’ch helpu i deimlo’n nes at Gymru. Ymunwch â ni a dathlu hunaniaeth Gymreig bob dydd, nid dim ond ar Fawrth y cyntaf!