Cyrsiau

Cyrsiau Pwrpasol

Rydym yn falch o allu darparu cefnogaeth bersonol sy’n diwallu anghenion unigryw pob grŵp, gan sicrhau bod dysgwyr yn derbyn arweiniad a chefnogaeth wedi’u targedu.

Gellir addasu ein cyrsiau pwrpasol ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys grwpiau bychain o ddisgyblion mewn ysgolion. Boed y pwyslais ar adeiladu sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg neu feithrin dawn greadigol uwch, mae ein tiwtoriaid profiadol yn gweithio’n agos gyda staff addysg a theuluoedd i greu rhaglenni deniadol sy’n gyfoethog yn ddiwylliannol. Mae’r dull personol hwn yn helpu dysgwyr i ddatblygu nid yn unig eu hyfedredd yn y Gymraeg, ond hefyd cysylltiad dwfn â diwylliant a hunaniaeth Cymru.

Mae ein cyrsiau Cymraeg ar gyfer Dysgwyr Mwy Abl a Thalentog (MAT), er enghraifft, wedi’u cynllunio’n arbennig i ysbrydoli a herio ysgrifenwyr ifanc sy’n frwdfrydig dros fynegiant creadigol.

Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau iaith uwch, adrodd straeon dychmygus, a chyfathrebu hyderus, gan helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn yn y Gymraeg.

Disgybl, Ysgol Pennant, Powys

“Roedd y gwersi yn hwyl ac yn llawn egni. Ar ôl cael gwersi creadigol rydw i wedi cael fy ysbrydoli i ysgrifennu’n fwy aml. Rydym wedi mynd ymlaen i gystadlu mewn eisteddfodau. Ges i gyfle i ddarllen fy stori i blant eraill ac roeddwn i’n mwynhau gweld nhw’n gwenu ar y darnau doniol. Nesaf rydw i am ysgrifennu stori ddoniol ar gyfer disgyblion iau. Rydw i hefyd wedi ysgrifennu stori i’r Urdd.”

Mae ein cyrsiau Cymraeg ar gyfer dysgwyr addysg yn y cartref yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i blant sy’n cael eu haddysgu gartref, gan ddarparu amserlen hyblyg a gwersi personol i weddu i anghenion y teuluoedd. Mae’r rhaglenni hyn yn canolbwyntio ar feithrin sylfeini cadarn yn y Gymraeg tra’n hybu ymdeimlad o gymuned a chysylltiad â dysgwyr eraill.