Gwersi Byw

Gwersi Byw Ar-lein

Dosbarthiadau Cymraeg ar-lein wythnosol ar gyfer plant rhwng 3 a 14 oed. Mae’r gwersi byw yn cael eu cyflwyno gan athrawon Cymraeg cymwys a phrofiadol. Bydd y gwersi nesaf yn dechrau penwythnos 6 Medi 2025 ac fel arfer yn cael eu cynnal ar bnawniau Sadwrn a boreau Sul.

Mae’r sesiynau’n para awr i blant rhwng 6 a 14 oed, a hanner awr i ddysgwyr iau rhwng 3 a 5 oed. Mae’r dosbarthiadau’n fach o ran niferoedd – tua 10 o ddisgyblion ac maent yn dilyn cwricwlwm cyfoethog sy’n dathlu hunaniaeth unigryw a threftadaeth Cymru.

Mae’r gwersi fel arfer yn dechrau o £15 yr awr, sy’n cynnwys marcio gwaith ysgrifenedig bob wythnos i gefnogi cynnydd parhaus.

Rhiant, Hong Kong

“Diolch yn fawr iawn i chi gyd am rhoi’r profiad yma o Ysgol Sadwrn i L a fi. Mae hi yn mwynhau y gwersi, er ei bod weithiau bach y swil, ond mae’n sôn yn aml am faint mae’n mwynhau. A mae’n gyfle mor arbennig i ni gyd i allu defynyddio’r Gymraeg a gweld pobol eraill yn ei defnyddio.”

Dechreuwyr

Ar gyfer plant sydd heb lawer neu ddim profiad blaenorol o’r Gymraeg. Pwyslais ar feithrin geirfa sylfaenol, ynganiad, a ffurfio brawddegau syml drwy ganeuon, gemau a straeon.

Canolradd

Ar gyfer plant sydd â rhywfaint o ddealltwriaeth o’r Gymraeg ac yn gallu defnyddio ymadroddion sylfaenol. Mae’r gwersi’n datblygu strwythur brawddegau, sgiliau gwrando, a hyder wrth siarad.

Ar gyfer plant sy’n siarad Cymraeg gartref ac sydd angen datblygu hyder a rhuglder. Pwyslais ar ehangu geirfa, mireinio gramadeg, a datblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu’n rhugl yn y Gymraeg.