Tiwtora

Gwersi Tiwtora Un i Un Ar-lein

Ar gael i blant 3 –14 oed sydd am gael cefnogaeth bwrpasol a phersonol yn y Gymraeg. Mae’r gwersi un i un yn cael eu haddasu i weddu i lefel a gallu’r plentyn, ac yn cynnig cyfle i symud ymlaen ar eu cyflymder ei hunain, gan dderbyn sylw llawn gan diwtor profiadol.

Gall y gwersi gael eu trefnu ar adegau sy’n gyfleus i’r teulu ac maent yn addas i blant ar bob lefel – o ddechreuwyr llwyr i siaradwyr rhugl sydd eisiau mireinio’u sgiliau.

Mae gwersi un i un yn dechrau o £40 yr awr.

Rhiant, Llundain

Rydym wrth ein bodd â’r gwasanaeth tiwtora. Mae wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n bywyd teuluol ac i hyder ein bechgyn yn eu Cymraeg llafar ac yn eu hunaniaeth ddiwylliannol.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu sesiwn brawf, cofrestrwch yma: