Yn byw yng Nghaergrawnt, Lloegr, mae’r ddwy chwaer Sioned a Catrin wedi dod o hyd i ffordd arbennig o gadw cysylltiad gyda’u treftadaeth Gymraeg – drwy fynychu Ysgol Sadwrn. Maen nhw bellach ym Mlwyddyn 6 ac 2, ac wedi bod yn mynychu’r ysgol ers tro gan ddefnyddio’r cyfle i gryfhau eu Cymraeg a gwneud ffrindiau newydd.
I’r ddwy, dydy dysgu Cymraeg ddim jest yn beth hwyliog – mae’n ffordd hanfodol o gadw’r iaith yn fyw. “Mae’n wych,” meddent, “i gefnogi’r iaith a’i rannu gydag eraill.”
Mae’r gwersi’n llawn amrywiaeth a hwyl: dysgu geirfa newydd, posau, darllen yn uchel, a gwylio clipiau fideo. Maen nhw hefyd wedi cael cyfle i ddysgu am ddiwylliannau gwahanol, gan gynnwys gwledydd fel Ciwba, America a Slofenia.
Mae gan y merched gysylltiad cryf â Chymru, gan eu bod yn ymweld â theulu’n rheolaidd, yn enwedig dros yr haf. “Rydyn ni’n caru’r wlad hon – y môr, y mynyddoedd a’r lliwiau!” medden nhw. Mae eu Cymraeg yn cael ei gadw’n fyw drwy siarad gyda theulu, gwylio ffilmiau Cymraeg, ac ymarfer yn y gymuned leol.
Pan ofynnwyd pwy yw eu harwr neu arwres Gymraeg, atebodd Catrin yn syth: Dona Direidi – am ei bod yn annibynnol, lliwgar ac yn hwyl! A phan ddaw at jôcs? “Pam fod hi’n anodd i fôr ladron chwarae cardiau? Oherwydd bod rhywun yn sefyll ar y dec!”
Gyda chymorth gwasanaeth fel Ysgol Sadwrn, mae’r Gymraeg yn parhau i ffynnu y tu hwnt i Gymru. Does dim ots ble rydych chi’n byw – gyda brwdfrydedd a chymuned, mae popeth yn bosib.
