Chwedlau Cymru: Y grefft o adrodd stori

Yn yr uned hon, bu ein dysgwyr yn ymdrwytho ym myd chwedlonol Cymru. O straeon hudol y Mabinogi i enwogion dewr a chwedlau ychydig mwy dieithr, mae’r uned wedi cynnig cyfuniad cyfoethog o straeon sy’n sbarduno’r dychymyg, creadigrwydd, a chariad at yr iaith Gymraeg. Trwy ddod i adnabod Blodeuwedd, Branwen, Bendigeidfran, Brenin Arthur, a thynged drist Gelert, bu’r dysgwyr yn archwilio themâu o ddewrder, hudoliaeth a moeseg wrth gryfhau eu cysylltiad â threftadaeth ddiwylliannol Cymru. Bum hefyd yn archwilio ambell chwedl llai cyffredin fel Merch Llyn y Fan.

Daethpwyd â’r dysgu yn fyw drwy gyflwyno stori Cantre’r Gwaelod. Nid yw chwedlau Cymreig yn storiâu’r gorffennol yn unig – maen nhw’n anturiaethau sy’n disgwyl i’w profi. Un o uchafbwyntiau’r uned oedd gweithgaredd rhyngweithiol wedi’i seilio ar y stori hon, y deyrnas golledig chwedlonol ym Mae Ceredigion.

Derbyniodd y dysgwyr neges gan fugail:

“Mae’r llanw’n codi’n gynt nag arfer. Dw i’n meddwl bod gatiau’r deyrnas ar agor!”

Wrth i niwl tywyll ymgasglu a tharanau ruo ar y gorwel, roedd yn rhaid i’n dysgwyr wneud penderfyniad. Cerdded i gau’r gatiau ei hunain? Dibynnu ar Seithennyn i wneud ei swydd yn gywir? Neu anfon gwas dibrofiad?

Roedd pob dewis yn arwain at diweddglo gwahanol i’r stori, gan greu naratif canghennog – stori “dewis-eich-antur” lle’r oedd penderfyniadau’r dysgwyr yn siapio’r chwedl ei hun. Roedd yr elfen ryngweithiol yma yn annog i’r dysgwyr feddwl yn feirniadol, wrth greu tensiwn yn y stori.

Yn ogystal â datblygu sgiliau darllen, siarad a gwrando yn Gymraeg, bu dysgwyr yn archwilio gwersi moesol, hanes diwylliannol, a thechnegau adrodd straeon. Roedd y cyfuniad o straeon traddodiadol a phrofiadau rhyngweithiol yn dod â’r chwedlau yn fyw, gan ddangos pa mor amserol y mae’r straeon hyn. Trwy gysylltu â chwedlau Cymreig roedden nhw’n meithrin gwerthfawrogiad dyfnach o ddiwylliant Cymru, fel gyda phob cenedl, mae ein chwedlau yn ffenestri i’n ddiwylliant, hanes, a hunaniaeth.